EifionJONES14 Mai, 2024. Yn dawel a heddychol yng nghwmni ei briod, gartref yn 9 Stryd yr Wyddfa, Pen-y-groes, yn 87 mlwydd oed.
Gŵr annwyl am 62 o flynyddoedd i Lena, a thad cariadus Karen, Ian a Sian; tad-yng-nghyfraith hoff Dawn ac Andrew, taid balch Ffion, Sera, Sion, Kieran a Toni a hen-daid Caleb, Glesni, Ffreia, James ac Athena. Hefyd brawd, ewythr a ffrind cywir i lawer.
Angladd brynhawn Mercher, 22 Mai, 2024. Gwasanaeth cyhoeddu yng Nghapel y Groes, Pen-y-groes am 2.00 o'r gloch, gan ddilyn ar lan y bedd ym Mynwent Macpelah.
Blodau'r teulu agosaf yn unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Eifion tuag at Marie Curie.
Ymholiadau i
Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280.
Keep me informed of updates